Portsmouth a Chymru: connections

Reproduced from Yr Wennol, April 2023

Y Wennol Er mwyn cael Y Wennol pob mis anfonwch eich cyfeiriad e-bost ataf - bobwennol@ntlworld.com 

Cyfrol 3 Rhif 12 Cysylltiadau Portsmouth a Chymru gan Mark Rudman 

Ysgrifennodd Rob Evans yn y Wennol (mis Ionawr 2023) “Pan o’n i’n trefnu teithiau cerdded i ddysgwyr ym Mhowys blynyddoedd yn ôl nes i sylwi bod llawer yn dod o Portsmouth yn wreiddiol. Tybed pam?”. Mi wnaeth hyn fy ysbrydoli i feddwl mwy am gysylltiadau posib; mewn gwirionedd a dychmygol hefyd. 

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanesion cudd ac mewn seicoddaearyddiaeth. Tybed, ydy hi ddim ond yn gyd-ddigwyddiad mod i'n dechrau fy mywyd yn Portsmouth ac yn setlo i fyw ym Mhorthmadog? Mae'r ddau le yn Port*m****! 

Mae'n debyg bod cysylltiadau morol rhwng Portsmouth a phorthladdoedd De Cymru ers amser hir. Roedd gan y Rhufeiniaid gaerau gerllaw, yn sicr (e.e. Castell Portchester yn Harbwr Portsmouth a Chaerleon ar afon Wysg). Tan ganol y 19eg ganrif yr Ierdydd Longau Brenhinol oedd y safleoedd diwydiannol mwyaf ym Mhrydain. 

Mae'n rhaid bod gweithwyr a theuluoedd wedi symud rhwng y lleoedd hyn. Sefydlwyd Iard Longau Portsmouth ym 1496 yn oes Harri Tudur. Dyma gysylltiad arall rhwng Penfro a Portsmouth. Sefydlwyd Iard Longau Penfro yn 1815, gan gymryd lle un yn Aberdaugleddau, yno ers y 18fed ganrif. Roedd eraill wrth gwrs yn Deptford, Woolwich, Chatham, Sheerness, a Plymouth. Daeth y gwaith i ben ym Mhenfro ym 1926, ond arhosodd y ganolfan yn Iard Longau swyddogol tan 2008. 

Bwriad y rheilffyrdd a adeiladwyd cyn 1869 oedd cysylltu poblogaethau, porthladdoedd, diwydiannau ac ardaloedd mwynau. Dw i'n dallt bod cysylltiad trên rhwng Portsmouth a Chaerdydd wedi dechrau tua’r un amser. Dw i'n cofio bod 'na dal cysylltiadau efo Orsaf Harbwr Portsmouth yn y 1960au ac y 1970au. 

Dw i'n nabod pobl o Dde Cymru oedd yn mynd ar wyliau yn Ynys Wyth [Isle of Wight] wedyn gan fferi rhwng Portsmouth a Ryde. Mae'n debyg bod y fasnach yn y ddwy ffordd. Fel plentyn, roedd fy ngwyliau mwyaf cofiadwy yng Nghymru, ond yn y gogledd, yn Llangollen neu Abermo. 

Ond, strydoedd Portsmouth ydy fy nghysylltiadau personol. Mi ges i fy magu mewn ardal a oedd yn ffinio ar strydoedd mwy "posh". Roedd gan y strydoedd yno enwau Cymraeg, e.e. Carmarthen Avenue, Merthyr Avenue, Aberdare Avenue, Penarth Avenue, Brecon Avenue. Dw i ddim yn gwybod pam ... eto. 

Mae'n bosib bod 'na cysylltiad â Thomas Ellis Owen (1805-1862), pensaer o deulu Cymreig. Roedd ei dad Jacob wedi gadael Gogledd Cymru i weithio ar gamlas Dudley cyn iddo fo symud i Lundain. Ar ôl gweithio fel peiriannydd yn Nulyn, symudodd Jacob a'i deulu i Portsmouth (Southsea), lle dechreuodd ei fab Thomas ei yrfa. 

Mae o'n cael ei ddisgrifio fel "Tad Southsea". Adeiladodd dai mawr mewn ardal oedd yn honni ei bod ar wahân i Portsmouth. Roedd o'n faer yn ddiweddarach. Maen nhw dal yn deud "Portsmouth & Southsea". Cyhoeddodd posteri twristiaeth “Dewch i Portsmouth Hanesyddol a Southsea Heulog". Yr un lle ydyn nhw mewn gwirionedd. 

Yn ddiweddarach mi wnes i ddarganfod bod dwy ferch a fyddai'n priodi efo dau o fy ffrindiau ysgol yn siarad Cymraeg yn rhugl. Roedd y ddwy yn byw yn Portsmouth drwy'r 1960au ac yr 1970au, ond dim ond ar ôl i mi symud yma a dysgu'r iaith roeddwn i'n gwybod hyn. Roedden nhw mor hapus â fi i sgwrsio yn Gymraeg ar y ffôn llynedd. Dw i newydd ddechrau darganfod y cysylltiadau hyn. Efallai bod chi'n gwybod mwy o fanylion. Ers i mi gyrraedd Cymru ddeng mlynedd yn ôl, dw i wedi dŵad i wybod cysylltiadau a hanesion cudd am ysbïo ym Mhorthmadog a Portsmouth a’r cyffiniau. Ond stori arall ydy hynny. 

http://www.gydangilydd.cymru/ywennol.htm

Comments

Popular Posts